1 Chronicles 29:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwn hefyd, O fy NUW, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod, O Dduw, dy fod ti'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun, ac yn falch pan mae rhywun yn onest. Ti'n gwybod fy mod i'n gwneud hyn am resymau da, a dw i wedi gweld y bobl yma yn cyfrannu'n frwd ac yn llawen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn, fy Nuw, dy fod yn profi'r galon ac yn ymhyfrydu mewn cyfiawnder. chalon uniawn yr offrymais o'm gwirfodd yr holl bethau hyn; ac yn awr gwelais dy bobl sydd wedi ymgynnull yma yn offrymu iti yn llawen ac o'u gwirfodd.