1 Chronicles 29:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr ARGLWYDD eich DUW. A'r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i'r ARGLWYDD, ac i'r brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Dafydd yn annerch y gynulleidfa: “Bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw!” A dyma'r gynulleidfa gyfan yn moli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. A dyma nhw'n plygu i lawr yn isel o flaen yr ARGLWYDD a'r brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, "Yn awr bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw." Yna bendithiodd yr holl gynulleidfa ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid trwy ymostwng ac ymgrymu i'r ARGLWYDD ac i'r brenin.