1 Chronicles 29:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i'r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n dathlu ac yn gwledda o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhw'n gwneud Solomon, mab Dafydd, yn frenin. Dyma nhw'n ei eneinio'n frenin, ac yn eneinio Sadoc yn offeiriad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Buont yn bwyta ac yn yfed o flaen yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw llawenydd mawr. Gwnaethant Solomon fab Dafydd yn frenin yr ail waith, a'i eneinio ef yn arweinydd i'r ARGLWYDD, a Sadoc yn offeiriad.