1 Chronicles 29:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o'i flaen ef yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud Solomon yn frenin mawr, a'i wneud yn enwocach nac unrhyw frenin o'i flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyrchafodd yr ARGLWYDD Solomon yn uchel iawn yng ngolwg holl Israel, a rhoi iddo fawrhydi brenhinol na welwyd mo'i debyg gan unrhyw un o frenhinoedd Israel o'i flaen.