1 Chronicles 29:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr aur i'r gwaith aur, a'r arian i'r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i'r ARGLWYDD?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a'r gwaith arall sydd i'w wneud gan y crefftwyr. Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr aur ar gyfer popeth aur, a'r arian ar gyfer popeth arian, ac ar gyfer holl waith y rhai celfydd. Pwy sy'n barod i ymgysegru o'i wirfodd i'r ARGLWYDD heddiw?"