1 Chronicles 4:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i'w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gan Simei un ar bymtheg o feibion a chwech o ferched, ond ychydig o feibion oedd gan ei frodyr; er hynny nid oedd eu holl deulu hwy wedi cynyddu cymaint meibion Jwda.