1 Chronicles 4:40 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o'r blaen oedd o Cham.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dod o hyd i dir pori da yno. Roedd yn wlad eang, ac roedden nhw'n saff ac yn cael llonydd yno. Rhai o ddisgynyddion Cham oedd wedi bod yn byw yno o'u blaenau nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe gawsant borfa fras a da mewn gwlad eang, dawel a heddychol; oherwydd rhai o dylwyth Ham oedd yn byw yno o'r blaen.