1 Chronicles 4:41 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a'r anheddau a gafwyd yno, ac a'u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i'w praidd hwynt yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, dyma'r dynion oedd wedi eu rhestru yn ymosod ar bentrefi'r Chamiaid, a'r Mewniaid oedd yn byw yno hefyd. Dyma nhw'n eu dinistrio nhw'n llwyr, a chymryd eu tiroedd oddi arnyn nhw, er mwyn cael porfa i'w defaid a'u geifr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, daeth y rhai a restrwyd ac ymosod ar bebyll Ham a'r pentrefi oedd ganddynt yno, a'u dinistrio'n llwyr hyd heddiw. Daethant i fyw yno yn eu lle am fod yno borfa i'w praidd.