1 Chronicles 5:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf‐anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meibion Reuben, mab hynaf Israel (Reuben oedd y mab hynaf, ond am ei fod wedi cael rhyw gydag un o gariadon ei dad, dyma fe'n colli safle'r mab hynaf. Meibion Joseff, mab Israel, gafodd y safle yna yn ei le. Felly dydy'r achau ddim yn cael eu cyfrif yn ôl trefn geni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma feibion Rueben, cyntafanedig Israel. (Ef yn wir oedd y cyntafanedig, ond am iddo halogi gwely ei dad rhoddwyd ei enedigaeth-fraint i feibion Joseff, fab Israel,