1 Chronicles 6:60 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o lwyth Benjamin; Geba a'i meysydd pentrefol, ac Alemeth a'i meysydd pentrefol, ac Anathoth a'i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny. Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn l eu teuluoedd.