1 Chronicles 6:65 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y trefi yma, o diriogaeth Jwda, Simeon a Benjamin, wedi eu henwi ymlaen llaw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoesant trwy goelbren, o lwythau Jwda, Simeon, a Benjamin, y dinasoedd hyn oedd wedi eu galw ar eu henwau.