1 Chronicles 6:77 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r rhan arall o feibion Merari y rhoddwyd o lwyth Sabulon, Rimmon a'i meysydd pentrefol, a Thabor a'i meysydd pentrefol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill disgynyddion Merari: O diriogaeth llwyth Sabulon: Rimmon a Tabor a'r tir pori o'u cwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r rhan arall o feibion Merari rhoddwyd o lwyth Sabulon: Rimmon a Tabor, pob un gyda'i chytir.