1 Chronicles 7:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth‐sean, a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi, Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ffiniau tiriogaeth Manasse roedd trefi Beth-shean Taanach, Megido a Dor a'r pentrefi o'u cwmpas. Disgynyddion Joseff, mab Israel, oedd yn byw yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meibion Manasse oedd berchen Beth-sean a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi, Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi; yno yr oedd meibion Joseff fab Israel yn byw.