1 Chronicles 8:40 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a'u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd meibion Wlam yn ddynion dewr ac yn gallu trin bwa saeth. Roedd ganddyn nhw gant pum deg o feibion ac wyrion. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Benjamin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd meibion Ulam yn ddynion abl ac yn saethyddion, ac yr oedd ganddynt gant a hanner o feibion ac wyrion. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Benjamin.