1 Chronicles 9:44 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan Atsel chwe mab: Asricam oedd yr hynaf, wedyn Ishmael, Sheareia, Obadeia, a Chanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Atsel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel.