1 Corinthians 1:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac atolwg af ywch, vroder, gan Enw eun Arglwydd Iesu Christ, bot ychwi oll ddywedyt yr vn‐peth, ac na bo ymrysoniō yn eich plith: eithyr cyssyllter chwi ynghyt yn vn veðwl, ac yn vn varn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, y bo i’r un peth gael ei lefaru genych oll, ac na bo yn eich plith sismau, ond bod o honoch wedi eich perffeithio yn yr un meddwl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr wyf yn deisyf arnoch, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd ohonoch yr un peth bawb, ac na bo ymraniadau yn eich plith chwi, ond bod ohonoch wedi eich cyfuno yn yr un meddwl ac yn yr un farn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist — stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wedi eich rhannu'n ‛ni‛ a ‛nhw‛.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, ar i chwi oll fod yn gytn; na foed ymraniadau yn eich plith, ond byddwch wedi eich cyfannu yn yr un meddwl a'r un farn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch yr un peth, ac na byddo ymbleidiau yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich cwbl‐aduno yn yr un meddwl ac yn yr un farn.