1 Corinthians 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a ðywedaf, vot pop vn o hanochwi yn dywedyt, Ys mi yw vn i Bawl, a’ mi neu vn i Apollos, a’ mi neu i Cephas, ac ys mi neu i Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mai cynhennau sydd yn eich plith; a hyn yw fy meddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi wyf o Paul; ac, Myfi o Apolos; ac, Myfi o Cephas; ac, Myfi o Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma fy meddwl, — bod pob un ohonoch yn dywedyd: myfi eiddo Pawl wyf, myfi eiddo Apolos, myfi eiddo Cephas, a minnau eiddo Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae un ohonoch chi'n dweud, “Paul dw i'n ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw i'n ei ddilyn,” neu “Dw i'n dilyn Pedr”; ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw i'n ei ddilyn”!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr hyn a olygaf yw fod pob un ohonoch yn dweud, "Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul", neu, "Minnau, i blaid Apolos", neu, "Minnau, i blaid Ceffas", neu, "Minnau, i blaid Crist".
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn yr wyf yn ei feddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi yn wir wyf eiddo Paul; ond myfi wyf eiddo Apollos; ond myfi wyf eiddo Cephas: ond myfi wyf eiddo Crist.