1 Corinthians 1:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A rannwyt Christ? Ai Paul a groget trosoch? nei ach batyðiwyt chvvi yn enw Paul?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rannwyd Crist? Ai Paul a groes-hoeliwyd trosoch? Ai i enw Paul y’ch bedyddiwyd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A aeth Crist yn gyfran i blaid? Ai Pawl a groeshoeliwyd drosoch, neu ai yn enw Pawl y’ch bedyddiwyd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y'ch bedyddiwyd chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy hi'n bosib rhannu'r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi'ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A aeth Crist yn gyfran plaid? Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch chwi? Neu, a fedyddiwyd chwi i enw Paul?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ydyw y Crist wedi ei rannu? a groeshoeliwyd Paul drosoch chwi? neu a fedyddiwyd chwi i enw Paul?