1 Corinthians 1:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can na dd anvonawdd Christ vi y vatyddiaw, any d y Euadgelu, ny d a doethinep ymadrodd, rac gwneuthur croc Christ yn ði‐rym.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nis gwn a oes neb arall a fedyddiais, canys ni ddanfonodd Crist fi i fedyddio, eithr i efengylu — nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wagheid croes Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ni’m hanfonodd Crist i fedyddio ond i bregethu efengyl, a hynny nid mewn doethineb ymadrodd, rhag gwneuthur croes y Crist yn ddiddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyhoeddi'r newyddion da ydy'r gwaith roddodd y Meseia i mi, dim bedyddio pobl. A dw i ddim yn trïo bod yn glyfar wrth wneud hynny chwaith, rhag ofn i rym y neges am groes y Meseia fynd ar goll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu: nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn wag.