1 Corinthians 1:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys precethu o’r groc ir ei a gyfer gollir, ’sy gantynt wy yn ynvydrwydd: a’ chenym ni, yr ei a iacheir, rhinwedd Duw yd dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys ymadrodd y groes, i’r rhai sy’n myned ar goll, ffolineb yw; ond i ni y sy’n cael ein hachub, gallu Duw yw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y gair am y groes, i’r rhai sydd ar dranc, ffolineb yw, ond i ni, sydd gadwedig, gallu Duw ydyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ymadrodd am y groes, i'r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni'r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r neges am y groes yn nonsens llwyr i'r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy'n cael ein hachub, dyma'n union lle mae grym Duw i'w weld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ymadrodd y groes, i'r rhai sydd yn myned i golledigaeth, ffolineb yw; eithr i ni y rhai sydd yn cael ein hachub, gallu Duw ydyw.