1 Corinthians 1:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
at yr Eccles Duw rhō sy yn‐Corinthus, at yr ei sainctiedic yn Christ Iesu, Sainct æ wrth ’alwedigeth y gyd ac oll a’r a ymor alwant ar Enw ein Arglwið Iesu Christ ym‐pop lle, sef y Arglvvydd hwy, a’n vn ni:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a Sosthenes, y brawd, at eglwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyda phawb y sy’n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ymhob man, eu Harglwydd hwy a ninnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
at eglwys Dduw y sydd yng Nghorinth, a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyd â phawb sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob man, yr eiddynt a’r eiddom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o'r eiddynt hwy a ninnau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
At eglwys Dduw yn Corinth. Dych chi wedi'ch neilltuo gan Dduw i berthynas â'r Meseia Iesu. Dych chi wedi'ch galw i fod yn bobl sanctaidd, fel pob Cristion arall — sef pawb ym mhobman sy'n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist. Fe sy'n Arglwydd arnyn nhw ac arnon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
at eglwys Dduw sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, ac sydd trwy alwad Duw yn saint, ynghyd phawb ym mhob man sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, eu Harglwydd hwy a ninnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyd â phawb a'r sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob lle, eu Harglwydd hwy a ninnau: