1 Corinthians 1:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
P’le mae ’r doeth? p’le mae’r Gwr‐llen? p’le mae dadleuwr y byt hwn? any wnaeth Duw ddoethinep y byt hwn yn ynvydrwydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa le y mae’ r doeth? Pa le y mae’ r ysgrifenydd? Pa le y mae dadleuwr y byd hwn? Onid yn ynfydrwydd y trodd Duw ddoethineb y byd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa le y mae’r doeth? pa le y mae’r ysgrifennydd? pa le y mae’r ymchwiliwr i bethau’r bywyd hwn? oni pharodd Duw annoethi doethineb y byd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa le y mae'r doeth? pa le mae'r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ble mae'r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae'r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pa le y mae'r un doeth? Pa le y mae'r un dysgedig? Pa le y mae ymresymydd yr oes bresennol? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd yn ffolineb?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa le y mae y Doeth? pa le y mae yr Ysgrifennydd? pa le y mae dadleuwr y cyfnod hwn? oni drodd Duw yn ffolineb ddoethineb y byd?