1 Corinthians 1:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit ir byt gan ddoethinep nad adnabu Dduw yn‐ d oethinep Duw, e welawdd Duw yn dda trwy ynvydrwydd precethu iachau yr ei a gredant:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pan yn noethineb Duw, nad adnabu y byd, trwy ei ddoethineb, mo Dduw, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb y pregethu gadw y rhai sy’n credu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yn noethineb Duw, oherwydd nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, y rhyngodd bodd i Dduw trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu'r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio'u clyfrwch eu hunain i ddod i'w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‛twpdra'r‛ neges dŷn ni'n ei chyhoeddi i achub y rhai sy'n credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd gan fod y byd, yn noethineb Duw, wedi methu adnabod Duw trwy ei ddoethineb ei hun, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn yr ydym ni yn ei bregethu achub y rhai sydd yn credu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn gymmaint ag, yn noethineb Duw, nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn a bregethir gadw y rhai sydd yn credu.