1 Corinthians 1:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys, vroder, chvvi welwch eich galwedigeth pa vodd nad llawer o ðoethion erwyð y cnawd, nad llawer o gedyrn, nad llawer o wyr cenhedloc a alvvyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys edrychwch eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o alluogion, nad llawer o foneddigion a alwyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ystyriwch eich galwad, frodyr, nad mynych ynddi ddoethion yn ôl y cnawd, nad mynych alluogion, nad mynych foneddigion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi'n bobl arbennig o glyfar, neu ddylanwadol, neu bwysig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn l safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys edrychwch ar eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o bendefigion, a elwir: