1 Corinthians 1:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r petheu gwaelion y byt, a’ phetheu a dremygir, a ddetholes Duw, a’ phetheu ny d ynt, y ddilëu y petheu ynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phethau difonedd y byd, a’r pethau dirmygus, a etholodd Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phethau iseldras y byd a’r pethau diystyredig a ddetholodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y dirymai’r pethau sydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymai'r pethau sydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dewisodd y bobl sy'n ‛neb‛, y bobl hynny mae'r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ‛rhywun‛.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a phethau distadl y byd a phethau dirmygedig a ddewisodd Duw; pethau nad ydynt, fel y dirymmai y pethau sydd: