1 Corinthians 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Diolchaf i’m Duw yn’oystat drosochwi am y Rat Duw, a roddet y chwi in Christ Iesu,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser o’ch herwydd am y gras Duw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Byddaf yn diolch i Dduw bob amser o’ch plegid am y gras gan Dduw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydwyf yn diolch i'm Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn i'r Meseia Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser amdanoch chwi, ar gyfrif y gras dwyfol a roddwyd ichwi yng Nghrist Iesu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn diolch i'm Duw yn wastad am danoch chwi, am ras Duw yr hwn a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu: