1 Corinthians 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yd nad ydych yn ddeffici ol o vn dawn: gan edrych am ymddangosiat Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel nad ydych ar ol mewn un dawn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel nad ydych chwi ar ôl am un dawn, gan ddisgwyl datguddiad ein Harglwydd Iesu Grist,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gynnoch chi bob dawn ysbrydol sydd ei angen arnoch tra dych chi'n disgwyl i'r Arglwydd Iesu Grist ddod yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel nad ydych yn ddiffygiol mewn un dawn; gan ddyfal‐ddysgwyl am ddadguddiad ein Harglwydd Iesu Grist;