1 Corinthians 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn Dduvv hefyt ach gadarnha chwi yd ydywedd, val y boch yn ddihawl yn‐dydd ein Arglwydd Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd, yr Hwn a’ch cadarnha hefyd hyd y diwedd yn ddiargyhoedd yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn hefyd a’ch cadarnhâ hyd ddiwedd yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn hefyd a'ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e'n eich cadw chi'n ffyddlon i'r diwedd un. Mae e am i chi fod yn ddi-fai ar y diwrnod mawr pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd ef yn eich cadw'n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y diwedd, fel y byddwch yn ddiargyhoedd yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist.