1 Corinthians 10:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
HEfyt, yroder, ny vynwn ywch anwybot, pā yvv bot ein oll tadeu gynt y dan yr wybren, a’u myned oll trwy’r mor,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y bu ein tadau oll dan y cwmmwl, ac i’r oll o honynt fyned trwy’r môr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, fod ein tadau ni, bawb ohonynt, dan y cwmwl, a myned ohonynt oll drwy’r môr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a'u myned oll trwy y môr;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am i chi gofio, frodyr a chwiorydd, fod ein hynafiaid ni i gyd wedi bod dan y cwmwl, ac roedd pob un ohonyn nhw wedi mynd drwy'r môr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, i'n hynafiaid i gyd fod dan y cwmwl, iddynt i gyd fynd drwy'r mr,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i'n tadau oll fod dan y cwmmwl, ac i'r oll o honynt fyned trwy y mor,