1 Corinthians 10:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r petheu hyn oll a ddeuth yddynt wy er esemplae, ac a escrivenwyt er rybydd i ni, ar ba rei y dygwyddawdd tervynae yr oesoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y pethau hyn ar wedd siamplau y digwyddasant iddynt hwy; ac ysgrifenwyd hwynt er cynghor i ni ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Digwyddai’r pethau hyn iddynt hwy yn null enghraifft, ac fe’u hysgrifennwyd er rhybudd i ni, y daeth arnom derfynau’r oesoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, digwyddodd y pethau hyn iddynt hwy fel esiamplau, ac fe'u hysgrifennwyd fel rhybudd i ni, rhai y daeth terfyn yr oesoedd arnom.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r pethau hyn ar wedd siamplau a ddygwyddasant iddynt hwy, ac a ysgrifennwyd er cynghor i ni, ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod.