1 Corinthians 10:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd ymavlawdd ynoch demtation, addieithyr vn dynawl: a’Duw ’sy ffyddlawn, yr hwn ny ad eich temto chvvi uchlaw hyn a alloch, eithyr gyd a’r temtation y gwna ef ellyngdawt, val y galloch ymdaro.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Temtasiwn nid ymaflodd ynoch chwi oddieithr un dynol; ond ffyddlawn yw Duw, yr Hwn ni ad eich temtio chwi uwchlaw yr hyn a allwch; eithr gwnaiff ynghyda’r temtasiwn y ddiangfa hefyd, er mwyn gallu o honoch ei ddioddef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid ymaflodd ynoch chwi brofedigaeth namyn un ddynol. Ond ffyddlon yw Duw, ac ni ad ef eich profi chwi y tu hwnt i’ch gallu, eithr ynghŷd â’r brofedigaeth, fe rydd y ffordd allan hefyd, modd y galloch ymgynnal odditani.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw'n gyffredin i bawb. Y mae Duw'n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i'ch gallu; yn wir, gyda'r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a'ch galluogi i ymgynnal dano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid ymaflodd ynoch demtasiwn ond un dynol; eithr ffyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn y ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.