1 Corinthians 10:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Phiol y vendith rhon ydd ym yn ei bendithio, any d commun gwaet Christ yw? Y bara rhwn a dorwn, anyd commun corph Christ yw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Phiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist yw? Y bara, yr hwn a dorrwn, onid cymmun corph Crist yw? gan mai un bara, un corph ydym, a ni yn llawer; canys yr oll o honom, o’r un bara y cyfrannogwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cwpan y fendith, a fendithiwn, onid cyfranogiad yw o waed Crist? Y dorth, a dorrwn, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cwpan y fendith yr ydym yn ei fendithio, onid cyfranogiad o waed Crist ydyw? A'r bara yr ydym yn ei dorri, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cwpan y Fendith yr hwn a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid corph cymmun Crist ydyw?