1 Corinthians 10:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nyni yr ei ym laweroeð ’yd ym vn bara, ac vn corph, can e yn bot ni oll yn gyfranog ion o vn bara.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys un dorth, un corff ydym ni sy’n llawer. Canys pawb ohonom, o’r un dorth y cyfranogwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o'r un bara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un dorth sydd, felly dŷn ni sy'n grŵp o unigolion, yn dod yn un corff wrth rannu o'r dorth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan mai un yw'r bara, yr ydym ni, a ninnau'n llawer, yn un corff, oherwydd yr ydym i gyd yn cyfranogi o'r un bara.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd mai un bara sydd, nyni, y rhai ydym yn llawer, ydym un corph; canys yr ydym oll yn cyfrannogi o'r un bara.