1 Corinthians 10:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth ddywedaf gan hyny? ai bot yr eiðol yn ðim neu vot yr hyn a aberthir ir eiðolon yn ddim?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fod yr hyn a aberthwyd i eulunod yn rhywbeth? neu fod yr eulun yn rhywbeth? eithr, y pethau a abertha’r cenhedloedd, i gythreuliaid y’u haberthant ac nid i Dduw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth, gan hynny, yw fy meddwl? — Bod aberth eilun yn rhywbeth? Ai bod eilun yn rhywbeth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu'r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly beth dw i'n geisio ei ddweud? — fod bwyta beth sydd wedi ei offrymu i eilun-dduwiau yn golygu rhywbeth, neu fod yr eilun ei hun yn rhywbeth?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth, felly, yr wyf yn ei ddweud? Bod bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod yn rhywbeth? Neu fod eilun yn rhywbeth?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod y peth a aberthwyd i eilunod yn rhywbeth, neu bod eilun yn rhywbeth?