1 Corinthians 10:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nag yvv, anyd am y petheu a abertha y Cenetloedd, eu bot yn y haberthu y gythreulieit, ac nyd i Dduw: ac ny vynnwn y chwi vot yn cymddeithas a’r cythreulieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid ewyllysiaf i chwi fyned yn gyfrannogion â’r cythreuliaid. O phiol yr Arglwydd ni ellwch yfed,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr a aberthant, mai i ddaimoniaid ac nid i Dduw yr aberthant. Ni fynnwn fod ohonoch yn gyfranogion â daimoniaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y pethau y mae'r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â'r cythreuliaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, dweud ydw i mai cael eu hoffrymu i gythreuliaid mae'r aberthau yn y pen draw, nid i Dduw; a dw i ddim am i chi gael dim i'w wneud â chythreuliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nage, ond mai i gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth, ac na fynnwn i chwi fod yn gyfranogion o gythreuliaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond, dywedaf, fod y pethau y mae y Cenhedloedd yn aberthu yn cael eu haberthu i gythreuliaid ac nid i Dduw; ac ni fynnaf i chwi fod mewn cymmundeb â'r cythreuliaid: