1 Corinthians 10:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae pop peth yn rhydd i mi, eithr ny wna pop peth les: pop peth ’sy rydd i mi, eithyr nyd yw pop peht yn addail ad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth sy’n llesau; pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth a adeilada.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn fuddiol. Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn adeiladu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae popeth yn gyfreithlon," meddwch; ond nid yw popeth er lles. "Y mae popeth yn gyfreithlon," meddwch; ond nid yw popeth yn adeiladu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn lleshâu; pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.