1 Corinthians 10:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth bynac a werthir yn y gigva bwytewch, eb y mofyn dim er mwyn cydwybot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob peth o’r a werthir yn y gigfa, bwyttewch ef heb ofyn dim er mwyn y gydwybod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Popeth a werthir yn y farchnad gig, bwytewch heb holi dim o ran cydwybod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwytewch bopeth a werthir yn y farchnad gig, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob peth a werthir yn y gigfa, bwyttêwch, heb ofyn dim er mwyn cydwybod;