1 Corinthians 10:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr a’s dywait nep wrthych, E a aberthwyt y peth hyn ir eiðolon, na vwytewch ddim hano, o bleit hwn a ei dangosawdd, ac er cydwybot (can ys yr Arglwydd bieu ’r ddayar, a’ chwbl ’syð ynthei)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
bwyttewch heb ofyn dim er mwyn cydwybod; ond os wrthych y dywaid rhyw un, Hwn, peth a aberthwyd yw, na fwyttewch, er mwyn yr hwn a’ i mynegodd, ac er mwyn cydwybod;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os dywed rhywun wrthych: Aberth y cysegr yw hwn, na fwytewch, er mwyn hwnnw a alwodd sylw ac o ran cydwybod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy rhywun yn dweud, “Mae hwn wedi cael ei offrymu yn aberth,” dylech beidio ei fwyta. Gwnewch hynny er mwyn y person a ddwedodd wrthoch chi, a lles y cydwybod —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os dywed rhywun wrthych, "Peth wedi ei offrymu yn aberth yw hwn", peidiwch 'i fwyta, er mwyn y sawl a alwodd eich sylw at y peth, ac er mwyn cydwybod;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr os dywed neb wrthych, Peth a aberthwyd yw hwn, na fwyttêwch, er mwyn yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod,;