1 Corinthians 10:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r gydwybot meddaf, nyd tau di any d vn arall: can ys paam y bernir vy rryðdit i gan gydwybot vn arall?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr eiddo’r llall; canys paham y mae fy rhyddid i yn cael ei farnu gan gydwybod un arall?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid cydwybod un ei hun yr wyf yn ei feddwl, ond cydwybod y llall. Paham, atolwg, y bernir fy rhyddid i gan gydwybod arall?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
cydwybod y person hwnnw dw i'n ei olygu, nid eich cydwybod chi. “Ond pam dylai fy rhyddid i gael ei glymu gan gydwybod rhywun arall?” meddech chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid eich cydwybod chwi yr wyf yn ei olygu, ond cydwybod y llall. Pam, yn wir, y mae fy rhyddid i yn cael ei farnu gan gydwybod rhywun arall?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr yr eiddo y llall; canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?