1 Corinthians 10:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
’sef megis ac ydd wy vi yn rhengy bodd pawp ym pop peth, eb geisio y lles vy huna an, anyd lles l’aweroeð, val e bōt cadwedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yr wyf fi ymhob peth yn rhyngu bodd pawb, heb geisio fy lles fi fy hun, eithr eiddo’r rhan fwyaf, fel yr achuber hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis yr wyf innau hefyd yn rhyngu bodd i bawb ym mhob dim, heb geisio fy lles fy hun, eithr lles y lliaws fel y byddont gadwedig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna dw i'n ceisio'i wneud — dw i'n ystyried beth sy'n gwneud lles i bawb arall. Yn lle meddwl beth dw i fy hun eisiau, dw i'n meddwl am bobl eraill. Dw i eisiau iddyn nhw gael eu hachub!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn debyg i'r hyn wyf fi; yr wyf fi'n ceisio boddhau pawb ym mhob peth, heb geisio fy lles fy hun, ond lles y lliaws, iddynt gael eu hachub.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel yr wyf finnau ym mhob peth yn rhyngu bodd i bawb, heb geisio fy llês fy hun, ond eiddo y llawer, fel yr achuber hwynt.