1 Corinthians 10:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na vyðwch eiðol‐addolwyr, mal y bu rei o hanwynt wy, megis y mae yn scrivenedic, Eisteddawdd y popul y vwyta ac yvet, ac a gyvodesont i chwareu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac na fyddwch eulunaddolwyr, fel rhai o honynt hwy, fel yr ysgrifenwyd, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, a chyfodasant i chwareu.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na byddwch ychwaith eilun-addolwyr, megis rhai ohonynt hwy. Megis y mae’n ysgrifenedig eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed a chodasant i chwarae.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch bod yn eilunaddolwyr, fel rhai ohonynt hwy; fel y mae'n ysgrifenedig, "Eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, a chodi i gyfeddach."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megys rhai o honynt hwy, fel y mae yn ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu ”.