1 Corinthians 10:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na wnawn ’odinep, mal y gwnaeth yr ei o hanynt wy ’odinep, ac a gwympiodd mewn vn die rnot teir‐mil ar vcain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac na odinebwn, fel y bu i rai o honynt hwy odinebu, a syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac na odinebwn megis y godinebodd rhai ohonynt hwy, — ac fe syrthiodd mewn un diwrnod dair mil ar hugain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw — gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwn chwaith chyflawni anfoesoldeb rhywiol, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy a syrthiodd tair mil ar hugain mewn un diwrnod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.