1 Corinthians 11:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys megis y mae’r wreic o’r gwr, velly y mae’r gwr hefyt trwy’r wreic: a’ phop dim ’sy o Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr un wedd ag y mae’ r wraig o’r dyn, felly hefyd y mae’ r dyn trwy’r wraig; a phob peth o Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys megis y mae’r wraig o’r gŵr, felly y gŵr hefyd drwy’r wraig. A’r cwbl o Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr un wedd ag y mae'r wraig o'r gŵr, felly y mae'r gŵr trwy'r wraig: a phob peth sydd o Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n wir fod y wraig wedi dod o'r dyn, ond mae'n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ac o Dduw mae'r cwbl yn tarddu yn y pen draw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gu373?r, felly hefyd y daw'r gu373?r drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr un wedd ag y mae y wraig o'r gwr, felly hefyd y mae y gwr trwy y wraig; eithr pob peth sydd o Dduw.