1 Corinthians 11:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any d yw yntef anian y dyscu ywch, a’s bydd briger i wr, mae mae anglod yw iðo?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid yw hyd yn oed naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd dyn yn wallt-laes, mai dianrhydedd yw iddo;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Onid ydyw natur ei hun yn eich dysgu mai anglod yw i ddyn o bydd ganddo wallt hir,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy natur ei hun ddim yn dysgu hyn i chi: os ydy gwallt hir yn diraddio dyn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid yw natur ei hun yn eich dysgu mai anfri yw i ddyn dyfu ei wallt yn hir,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Onid yw hyd y nod naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd gwr â gwallt hir, gwarthrudd yw iddo?