1 Corinthians 11:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Weithian yn hyn a venagaf, ny ’ch canmolaf, sef ych bot yn ymgynull, nyd er lles, any d ir afles.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pan hyn a orchymynaf, nid wyf yn eich canmol, canys nid er gwell, eithr er gwaeth y deuwch ynghyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dyma beth, a mi’n gorchymyn, nad wyf yn ei ganmol, sef nad er gwell ond er gwaeth yr ydych yn dyfod ynghŷd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wrth eich cyfarwyddo, dyma rywbeth nad wyf yn ei ganmol ynoch, eich bod yn ymgynnull, nid er gwell, ond er gwaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr wrth orchymyn hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd nid er gwell, ond er gwaeth;