1 Corinthians 11:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yn gynta dim, pan ymgynulloch ir Eccles, mi a glywaf vot ymrysoneu yn eich plith: ac ydd wyf yn credu y vot yn vvir o ran.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd, clywaf mai yn yr eglwys y mae sismau yn eich plith, a rhyw faint y credaf hyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yn gyntaf oll, pan ddeloch ynghŷd mewn cynulleidfa, clywaf fod pleidiau yn eich plith, a chredu’r wyf fod peth gwir yn yr ystori.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn gyntaf, pan fyddwch yn ymgynnull fel eglwys, yr wyf yn clywed bod ymraniadau yn eich plith, ac rwy'n credu bod peth gwir yn hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys, yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr wyf yn clywed fod ymraniadau yn eich plith, ac mewn rhan yr wyf yn ei gredu.