1 Corinthians 11:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr owrhon, vrodur, ich can molaf, can ywch coffa u vy oll betheu, a’ chadw ’r ordenhadeu, val y rhoesym y’wch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac eich canmol yr wyf, gan mai ymhob peth fy nghofio yr ydych; ac, fel y traddodais i chwi, y traddodiadau eu cadw yr ydych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr wyf yn eich canmol chwi oblegid eich bod yn cofio amdanaf ym mhob dim, ac yn dal at y traddodiadau megis y traddodais i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n rhaid i mi eich canmol chi am ‛ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi‛!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn eich canmol chwi am eich bod yn fy nghofio ym mhob peth, ac yn cadw'r traddodiadau fel y traddodais hwy ichwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn eich canmol,, gan eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau fel y traddodais hwynt i chwi.