1 Corinthians 11:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pop vn wrth vwyta, a gymer y swper y hun o’r blaen, ac vn ’sy a newyn arno, ac arall ’sy veðw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys pob un sy’n cymmeryd ei swpper ei hun o flaen arall, yn y bwytta; ac un sydd a newyn arno, ac arall yn feddw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae pob un yn achub y blaen i fwyta’i swper ei hun, ac y mae’r naill ar ei gythlwng a’r llall yn feddw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o'r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd yn y bwyta y mae pob un yn rhuthro i gymryd ei swper ei hun, ac y mae eisiau bwyd ar un, ac un arall yn feddw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yn y bwytta, y mae pob un yn cymmeryd o flaen arall ei swper ei hun; ac y mae un yn newynog, ac arall yn feddw.