1 Corinthians 11:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any d oes ychwi dai i vwyta ac y yvet ynthynt? a dremygwch‐ vvi Eccles Dew, ac a warthew‐chwi ’r ei nyd oes dim ganthwynt? pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? na chanmolaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid oes tai genych i’r bwytta ac yfed ynddynt? Ai eglwys Dduw a ddirmygwch, a chywilyddio y rhai nad oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? A ganmolaf fi chwi yn y peth hwn? Ni’ch canmolaf Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tybed nad oes i chwi dai, ynteu, er mwyn bwyta ac yfed? Neu ai dirmygu Eglwys Dduw yr ydych, a bwrw anfri ar y rhai sydd heb ddim? Pa beth a ddywedaf wrthych? Ai eich canmol a wnâf? Yn hyn o beth ni’ch canmolaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu dych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbwl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid oes gennych dai i fwyta ac yfed ynddynt? Neu a ydych yn mynnu dirmygu eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai sydd heb ddim? Beth a ddywedaf wrthych? A wyf i'ch canmol? Yn hyn o beth, nid wyf yn eich canmol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? neu ai dirmygu yr ydych eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.