1 Corinthians 11:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys d erbyniais y gan yr Arglwydd yr hyn ac a roddais y chwi, nid amgen, Bot ir Arglwydd Iesu y nos‐hon y bradychwyt ef, gymeryt bara.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hyn a draddodais hefyd i chwi, y bu i’r Arglwydd Iesu yn y nos y traddodwyd Ef, gymmeryd bara;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys fe dderbyniais i oddiwrth yr Arglwydd yr hyn a draddodais hefyd i chwi, sef ddarfod i’r Arglwydd Iesu, y nos yr oeddid yn ei draddodi, gymryd torth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd, yr hyn hefyd a draddodais i chwi: Bod i'r Arglwydd Iesu, yn y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara;